Deisebydd: Owen Shiers
Dyddiad dechrau:23/11/23
Dyddiad gorffen: 23/05/24
Gweithred
Ailsefydlu cyllid craidd ar gyfer TRAC Cymru (Traddodiadau Cerdd Cymru)
Cefndir:
Ffurfiwyd TRAC i hyrwyddo a thynnu sylw at draddodiadau cerddoriaeth werin a dawns Cymru, er mwyn iddynt gael eu cefnogi ar yr un lefel â mathau eraill o gerddoriaeth glasurol a chyfoes, a genres diwylliannol eraill.
Cymerwyd camau breision yn y degawdau diwethaf i feithrin diwylliant gwerin Cymru, a hyrwyddo Cymru ar lefel ryngwladol. Er gwaethaf hynny, mae Cyngor Celfyddydau Cymru wedi penderfynu dileu cyllid craidd TRAC, gan olygu na allant barhau â'u gwaith hanfodol. Dyma fynnu bod y cyllid hwn yn cael ei adfer.
Gwybodaeth Ychwanegol:
Mae celfyddydau traddodiadol Cymru yn garreg sylfaen yn hunaniaeth ein cenedl. Mae ein cerddoriaeth, ein cân, ein dawns, a’n straeon llafar yn cario ac yn mynegi ein diwylliant a’n ffordd o fyw nodedig. Dyma draddodiadau a gadwyd yn fyw ers canrifoedd gan werin Cymru, gydag ychydig iawn o gydnabyddiaeth na chefnogaeth gan lywodraeth ganolog.
Sefydlwyd TRAC yn 1997 gan grŵp o gerddorion gwerin a chefnogwyr a oedd yn rhannu cred ym mhwysigrwydd a gwerth ein diwylliant traddodiadol, ymwybyddiaeth o’i berthnasedd parhaus i’r presennol, ac angerdd dros rannu’r hyn sydd gan draddodiadau cerddorol i’w gynnig.
Heb gefnogaeth, mae’r ffurfiau traddodiadol hyn yn colli buddsoddiad a ffocws i ffurfiau clasurol a chyfoes o greu cerddoriaeth, ac maent mewn perygl o berthyn i amgueddfeydd yn hytrach na bod yn draddodiad gwerin byw sy’n llywio ein diwylliant cyfoes a’n hymdeimlad o hunaniaeth.
Mae llawer o gynnydd wedi’i wneud yn y degawdau diwethaf i unioni’r fantol, ond mae cael gwared ar gyllid craidd TRAC yn fygythiad gwirioneddol.